<< Nôl i'r Erthyglau

Er cof Annwyl am Les Morrison

Anodd iawn ydi cyfleu a crynhoi colli Les, am y tro dyma ymgais dan sioc i gofnodi rywbeth am yr arwr addfwyn ac anturiaethwr yma, a gefnogodd gerddorion ei fro i’r carn.
Ymysg ei ddoniau; Gwr, Tad, Taid, Awdur caneuon, cynhyrchydd, cerddor, technegydd sain, cyfarwyddwr, plastrwr, elusenwr, cymwynaswr, Rhwydweithiwr o fri, catalyst i newid, pen label recordio, rheolwr stiwdio, athro. Colled anferthol i’w deulu, ei gymuned ac i gymuned fyd-eang o gerddorion. Diolch Les. Bydd byth dy debyg ac fe gofiwn dy garedigrwydd ath gyfeillgarwch am byth.

Dim Sylwadau »

Dim sylwadau hyd yma.

Rho sylw

@ gruff rhys 2010 | Cysylltwch a ni