<< Nôl i'r Erthyglau

Er Côf Am Gary Speed.

Oes unhrywun yn cofio digwyddiad mor anisgwyl? Mae o fel petae’r Pâb wedi lladd ei hun neu rywbeth cyffelyb. Dyw’r peth ddim yn gwneud unhryw synnwyr, rhywsut.

Roeddwn i wedi cynhyrfu’n lân ers rhai misoedd am gryfder newydd ein tîm peldroed. Roedd hyn hyd yn oed wedi gwella fy safon byw.

Be dw i’n ceisio esbonio ydy ‘mod i wedi bod yn cymryd mwy o sylw o Gary Speed, ers ei benodiad llynedd yn reolwr Cymru, nag erioed o’r blaen.

Roedd wedi dod ag ysbryd sionc, pell-gyrhaeddol i’r garfan ac wedi hyrwyddo technegau arbrofol a chyfoes – yn rhanol drwy benodi aelodau i’w staff oedd yn flaenllaw yn y byd peldroed ar lefel rhyngwladol. Pobl fel yr Iseldirwr, Raymond Verheijen. Roedd newyddion calonogol yr wythnos yma o’i obaith i ddyfalbarhau gyda carfan Cymru.

Ond i ‘nghenhedlaeth i, roedd Speed wastad wedi bod yno ( dw’i flwyddyn yn iau ).
Dw i’n cofio pan oedd o’n chwarae i Leeds efo’i wallt yn edrych fel petae o ar ei ffordd i rave. Rhywsut, roedd o’n cynrychioli ysbryd ieuenctid a’r holl hunan-hyder sy’n rhan o hynny.

Bu bron iddo fynd i Gwpan Y Byd yn ’94 – yn nhîm Terry Yorath. Roedd yn gapten ar dîm trydanol Mark Hughes a gurodd yr Eidal yn 2002.

Mae’r dirgelwch ynghylch ei farwolaeth yn boenus. Fel pawb, dw’i prin wedi meddwl am ddim arall. Gyda phob math o gynllwynion yn chwyrlio o gwmpas fy ‘mennydd. Pam Speed? Pam Cymru?

Os nad oedd Speed yn arbennig o isel ei ysbryd, pa fath o drybini oedd yn pwyso cyn-drymed ar ei feddwl, druan?

Am ryw reswm mae’n f’atgoffa o farwolaeth Carwyn James yn ’83 – efallai am fod y ddau yn rheolwyr blaenllaw, yn Gymry, ac yn bobl nad oeddem yn barod i ffarwelio â nhw eto.

Ta waeth, y gronyn bach sy’n galonogol am y sefyllfa druenus hon ydy’r ysbrydoliaeth y gallwn dynnu arno i’n tywys allan o’r pydew yma o dristwch.
Roedd Speed yn hollol ddi-ffuant ei grêd y gallwn, fel cenedl, gyflawni unhrywbeth y dymunwn – neu o leia roi cynnig gô dda arni.
Yn fwy na hynny, credai y gallwn wireddu hynny mewn modd urddasol a gogoneddus.

Drwy geisio ymddwyn yn ddiymhongar, blaenllaw a hyderus yn ein maesydd, efallai y medrwn oll ddathlu ei gyfraniad i’n diwylliant.

Dim Sylwadau »

Dim sylwadau hyd yma.

Rho sylw

@ gruff rhys 2010 | Cysylltwch a ni