<< Nôl i'r Erthyglau

SPARDIAU gan AP LLYWARCH

Wele’r cyntaf mewn cyfres achlysurol o flogiau-gwadd gan flogwyr eraill, Dyma flog gan AP LLYWARCH o Fangor am ei obsesiwn gyda spardiau, mwynhewch!

 

Sbardiau

 

Ysbardun, eg. ll.  -au. Offeryn ar sodlau marchog ac iddo bigiau llym i yrru’r ceffyl; cyflymydd, chwimiadur. SPUR; ACCELERATOR.

Y Geiriadur  Mawr [1978]

“Tynna’r sbardia’ mwdlyd gwlyb ’na cyn dod i’r tŷ!” Dyma un o fy atgofion cynharaf o glywed mam yn defnyddio’r gair ‘sbardiau’ am ‘trainers’ (neu ‘sneakers’ os da chi ishio bod yn Americanaidd). Y flwyddyn? Tua 1973/4. Dw i’n credu. Falle. A bu mam yn ddefnyddio’r gair hyd ddiwedd ei hoes, a dwi’n cofio sôn wrthi, nôl yn 2001, am bâr o sbardiau “Adidas Italia” roeddwn wedi’u gweld ar draed Paul Weller (arwr i mi adeg hynny)  ac yn ysu cael gafael arnynt.  Yn anffodus, wedi galwad ffôn i Adidas, y newyddion drwg oedd bod yr Italia “out of stock”.  Yn ffodus, mi gefais cysylltu a’r rhyngfrwd am y tro cyntaf, a gyda fy bysedd ddi-qwerty, mi eisi ati i chwilio am yr Italia gwibiog. Mi gymerodd tua mis o chwilio, ond mi gefais fy nwylo ar bar!

Mae’r diddordeb mewn sbardiau wedi bod yn gryf ynof ers y cychwyn – parau o Adidas Kick neu Patrick Villan yw’r rhai cynharaf dwi’n cofio eu henwau. Cefais fy swyno gyda’r siapiau, y llinellau, y cromlinau,  y defnydd a’r lliwiau. Dwi’n cofio mam a dad yn gofyn “Be ti’n neud?”, tra’n gweld fi’n dal sbardun i fynnu yn yr awyr ac yn ei archwilio’n fanwl, gan astudio’r ffurf a’r lledr wrth geisio dyfalu sut rhoddwyd yr esgid at ei gilydd.  Nid bo fi’n hawlio mod i’n rhyw fath o wybodusun gyda’r ochr dechnolegol o ddylunio sbardiau. Mae fy agwedd yn adlewyrchu barn y gŵr bonheddig, Edmund Blackadder: “I am one of those people who is quite happy to wear cotton, but have no idea how it works”.

Treuliais oriau maith yn ystod fy mlentyndod yn glanhau a pholisio fy sbardiau. Polish du i ddechrau ac yna polish di-liw, clir i roi ‘extra-protection’. Sgidiau glân yn sgleinio oedd yr unig fordd yn tŷ ni. Pryd hynny, fel y rhan fwyaf o blant/pobol, gwisgo pâr o sbardiau tan iddynt dorri neu tan fod tyllau’n ymddangos yn eu gwaelodion oedd yr arfer.  Ac heddiw? Well, dwi’n newid pâr o leiaf unwaith bob dydd, cyn eu glanhau a’u ddychwelyd i’w bocs. Ydw, dwi’n cadw’r bocsys. Mae’n gwneud hi’n haws i’w storio.  Gwisgo’r un pâr dau ddiwrnod yn ganlynol? Nefar in Ewrop, gwd boi. Nefar in Ewrop!!

Gwn mi wn bod hyn yn swnio’n rhyfedd, a dwi’n siwr bod eich meddyliau yn llawn “Beh?”, “Really?” neu rywbeth tebyg, gyda’r pwyslais ar y “Ff”! Ond oedwch am eiliad, a meddyliwch am gar – car fel Ferrari neu Porsche (cewch ddewis y model eich hun). Nid yw’r siâp a’r llinellau yn rhywbeth fedrwch eu gwerthfawrogi? Ei mwynhau?

Unwaith ar y ffordd i’r Canaries, wrth gerdded trwy ‘security’, ym Maes Awyr Caerdydd gyda phâr o Adidas ‘Top Ten’ newydd sbon ar fy nhraed ac yn edrych ’mlaen i wythnos o dorheulo ar draeth yn Lanzarote, cododd llais un o’r swyddogion diogelwch gan fynnu fy sylw.

“Can I see your trainers please?” Meddai, gan bwyntio at fy ‘Top Tens’.

“Of course” medda finna, yn llawn balchder, cyn codi coes fy jeans i ddatgelu ‘side profile’ (y proffeil gorau yn fy marn i) y ’sbardun chwith.

“NO! I meant show me the soles of your trainers, we need to check them for security reasons.”

Mwy gan Ap Llywarch YMA

Dim Sylwadau »

Dim sylwadau hyd yma.

Rho sylw

@ gruff rhys 2010 | Cysylltwch a ni