<< Nôl i'r Erthyglau

Cofio Gil Scott Heron

Newyddion trychinebus am yr hen Gil Scott Heron.

Atgofion melys ac eitha anghredadwy bellach, o fynd i’r Octagon ym Mangor efo Llyr Ab Alwyn a’r chwiorydd Meirion a’r criw yn 1992 i’w weld yn chwarae gig anhygoel i gynulleidfa dennau iawn.

Roedd o’n aros yn y Menai Court Hotel ym Mangor Uchaf ; aethom fyny yno ar ôl y sioe i gymdeithasu gyda’r grŵp.

Roeddent yn chwarae yn y Sherman yng Nghaerdydd ar yr un un daith dwi’n meddwl. Aeth unrhywyn i’w weld yno?

Y gân ‘Winter In America’ yn arbennig o dda y noson honno – uchafbwynt set gwych…ond set a ddechreuodd yn hwyr gan fod GSH wedi disgyn i gysgu ar y trên i Fangor…gan ddeffro yng Nghaergybi!

Dim Sylwadau »

Dim sylwadau hyd yma.

Rho sylw

@ gruff rhys 2010 | Cysylltwch a ni