A FO BEN NA FID GONT
*CADEIRYDD S4C YN CADARNHAU PENODIAD CANWR PROTEST FEL PRIF WEITHREDWR.
*DULLIAU GANDHI I DDYCHWELYD.
Mewn datganiad ysgytwol neithiwr cadarnhaodd cadeirydd S4C benodiad y canwr protest o Frasil, Tony Da Gatorra fel Prif Weithredwr newydd Y Sianel.
CYNHADLEDD I’R WASG.
Cynhaliwyd cynhadledd i’r wasg danllyd mewn tafarn ym mhentref Cilmeri, Powys.
Yno, datganodd Tony,
‘Mae’n bryd dod â chyfnod cyfalafol Y Sianel i ben. Byddaf yn brwydro’n daer i ail-adfer cysylltiad Y Sianel â’i gwerin bobl’.
Ychwanegodd,
‘Maes o law gobeithiaf drafod gyda Carwyn Jones ein Prif Weinidog, strategaeth i ail-genedlaetholi darpariaeth adloniant Y Sianel’.
EHANGU
Mewn cam a ddrysodd nifer o wybodusion cyfryngol esboniodd,
‘Gobeithiaf ehangu’r Sianel i ddarlledu’n fyd-eang. Er enghraifft, mae 180 miliwn o siaradwyr Portiwgeeg ym Mrasil a chyn hir byddaf yn paratoi adroddiad yn ymdrin ag oblygiadau recordio fersiynnau amlieithog o ‘Bobl Y Cwm’ – ochr yn ochr â’r fersiwn Gymraeg – er mwyn cynyddu gwerthiant hysbysebu’.
TELE NOVELA
‘Byddaf yn cydweithio â llywodraeth Hugo Chavez yn Venezuela i ddarparu scriptiau Sosialaidd eu naws, gydag elfennau mwy dramatig a rhamantus y Tele Novela Lladinaidd’.
LLOEREN
‘Bore ‘ma dychwelais o Frychdyn lle bum yn ymgynghori am lawnsio lloeren fel rhan o gonsortiwm o ddarlledwyr ieithoedd lleiafrifol. Nid yn unig bydd hyn yn caniatau darlledu rhyngwladol ond bydd hefyd yn ein galluogi i wylio sianeli teledu eraill – er mwyn cadw ein ceffyl cyfryngol ar flaen y gad’ yn wastadol.
YMPRYD
Mewn ymateb i gwestiwn gan Vaughan Roderick ( bloghebydd gwleidyddol y Bi Bi eC ) ynghylch dulliau ymprydio, ychwanegodd ein harwr,
‘Ar hyn o bryd nid wyf yn diystyri unhryw ddulliau gweithredu ; ein hunig nôd yw sicrhau cyflenwi’r nwyddau darlledu gorau posib i’n pobl.
Rhaid cofio bob amser taw ympryd yw sail ein Sianel, ac yn wir gall fod o fudd i ni gyd-ymprydio’n achlysurol, er llês lefelau’n pwysau gwaed’.
BRAWYCHUS!
‘Mae amseroedd brawychus o’n blaenau, Gyfeillion. Rhaid i ni sefyll yn gadarn a datblygu maniffesto a stwythur i’n tywys i’r Ethiopia Newydd…
y cwestiwn nesaf o’r llawr os gwelwch yn dda, Betsan…’
HOFRENYDD
Yn fuan wedi hyn, o lain o dir ger côf golofn Llywelyn Ein Llyw Olaf, gadawodd Mr Gatorra ein gwlad, mewn hofrenydd.
Bydd yn dychwelyd i Frasil er mwyn cwblhau ffurfleni Visa a fydd yn ei alluogi i weithio yma yn yr hir dymor.
Gwrthododd y Swyddfa Gartref yn Llundain ymateb o gwbl i unrhyw gwestiynnau nac ychwaith i’r ‘si’ na fydd croeso yn ôl i’r Prif Weithredwr newydd i’n gwlad.

erthygl dadleuol a difyr
Comment gan Hywel — Gorffennaf 30, 2010 @ 8:04 yh
Yp ddy refoliwsion!!!!!!
Comment gan hogiani — Gorffennaf 30, 2010 @ 9:50 yh