Yr Atal Genhedlaeth

Bydd record hîr o 2005 gan Gruff Rhys, Yr Atal Genhedlaeth, a gynhyrchwyd gan Gorwel Owen yn OFN, Ynys Môn, ar gael yn ddigidol am y tro cyntaf yn ngwledydd ynysoedd Prydain fore Llûn y 4ydd o Fawrth ar safle I Tunes*

Yn cynnwys y caneuon fflachus a Sgleiniog:

•Ni Yw Y Byd!!!
•Pwdin Ŵy (rhannau un a dau)!!!
•Gwn Mi Wn!!!
•Rhagluniaeth Ysgafn!!!
•Caerffosiaeth, a llawer mwy,

Yn ogystal a campwaith Caryl,

Chwarae’n Troi’n Chwerw!!!

***** Campwaith (Y Bŷd)

***** Gwefreiddiol (papur bro cantre’r gwaelod)

** Rhagrith! (Y Wialen Ddyddiol)

* Cabledd! (Y Tyst)

* Llwyth o #%$} (Barddas)

*Wedi ei ryddhau eisioes mewn sawl gwlad yn Ewrop, Siapan a gogledd America os ydych yn trigo y tu hwnt i’r ynysoedd.


Wedi eu bostio ar: Mawrth 4, 2013

Neon Neon - albym newydd a chynhyrchiad National Theatre Wales!

Bydd Neon Neon (Gruff Rhys a Boom Bip) yn rhyddhau albym newydd ‘Praxis Makes Perfect’ drwy Lex Records ar Ebrill 29ain.

Ysbrydolwyd Praxis Makes Perfect gan fywyd a gwaith Giangiacomo Feltrinelli. Ganwyd Feltrinelli i un o deuluoedd cyfoethocaf yr Eidal a daeth yn ffigwr amlwg a dylanwadol mewn gwleidyddiaeth adain chwith yn fydeang. Wrth ei ei waith fel cyhoeddwr roedd yn gyfrifol am gyhoeddi rhai o weithiau llenyddol pwysicaf yr 20ed ganrif megis The Leopard a Doctor Zhivago. Bu farw dan amgylchiadau amheus yn 1972.

Rhyddhawyd albym gyntaf Neon Neon – Stainless Style – yn 2008 wedi ei seilio ar fywyd a gwaith John DeLorean ac enwebwyd y record ar restr fer gwobrau Mercury y flwyddyn honno. Mae Praxis Makes Perfect yn cynnwys llu o westeion yn eu mysg Sabrina Salerno, Asia Argento, Cate Le Bon a Josh Klinghoffer.

Bydd Praxis Makes Perfect yn cael ei lawnsio ar y cyd gyda National Theatre Wales mewn cyfres o berfformiadau unigryw yng Nghaerdydd o’r 2ail i’r 5ed o Fai mewn lleoliad arbennig a ddatgelir yn fuan. Yn gynhyrchiad ar y cyd gyda’r dramodydd Tim Price a’r gyfarwyddwraig Wils Wilson bydd tocynnauar werth yma am £15.

neonneonofficial.tumblr.com


Wedi eu bostio ar: Ionawr 24, 2013

SEPARADO! YN EICH TELEDU!


Wedi eu bostio ar: Rhagfyr 19, 2012

RHAID TWTIO'R TŶ CYN TUTBU...Cyngerdd fyw fyrfyfyr fendigedig yn Nghaerdydd...

Bydd y band ‘surf’ o ogledd Cymru Y Niwl yn ymuno â Gruff Rhys am gig arbennig i gyd-fynd â chyfraniad Phil Collins i Artes Mundi 5 yn Chapter, Caerdydd, Rhagfyr 16. Byddant yn ail-greu’r trac sain ar gyfer y perfformiad a’r gosodwaith This Unfortunate Thing Between Us (TUTBU TV) lle y buont yn serennu fel ‘band y tŷ’.

Mae This Unfortunate Thing Between Us ar ddangos ar hyn o bryd fel  Comisiwn y Bwlch Goleuo newydd ac mewn dwy garafán ar flaen-gwrt Chapter. Wedi’i berfformio’n gyntaf yn 2011 a’i ddarlledu’n fyw ar deledu digidol yn yr Almaen, sianel siopa gartre amgen ywTUTBU TV sy’n gwerthu profiadau bywyd go iawn yn lle nwyddau masgynyrchedig. Mae’n cynnwys broliant, arddangosiadau a phobl yn ffonio i mewn yn fyw i gynnig cipolwg gogleisiol ar ddyfodol posibl teledu prynwriaethol.

TOCYNNAU AR GAEL YMA


Wedi eu bostio ar: Tachwedd 20, 2012

TELEDU TUTBU

Carafanwyr Cymru!

Dewch yn llû!

Dewch i weld sianel ffûg fasnachol Phil Collins TUTBU TV!

Bydd yn darlledu i sgrîniau teledu o fewn 2 garafan o flaen canolfan gelf Chapter, Caerdydd o heddiw hyd mîs Ionawr.

Bydd 2 raglen awr o hyd yn darlledu, yn cynnwys cerddoriaeth hudolus ddi-dor gan Gruff Rhys ac Y Niwl.


Wedi eu bostio ar: Hydref 4, 2012

Older Posts »

Newyddion


YN FYW


ARCHIF


CYDWEITHIO


Links

@ gruff rhys 2010 | Cysylltwch a ni