CEFNOGWCH DEULU CAERDEGOG

Rali Nid yw Mon ar Werth i Wylfa B
CEFNOGWCH DEULU CAERDEGOG
Ionawr 21 ain – 2.30 yp
Maes Parcio Ffordd Glanhwfa Llangefni
Siaradwyr
Richard Jones Caerdegog
Dr Mallcom Caroll (Greenpeace)
Angharad Tomos / Menna Machreth (Cymdeithas yr Iaith)
Dr Carl Clowes / Parch Emlyn Richards (PAWB) 

digwyddiad Facebook – http://www.facebook.com/#!/events/186944848062016/

Mae teulu ar Ynys Môn mewn brwydr fawr â chwmni Horizon ar hyn o bryd, sef y cwmni sydd eisiau adeiladu Wylfa B. Mae Horizon yn ceisio gorfodi teulu Caerdegog i werthu’r tir iddyn nhw gael adeiladu’r atomfa newydd. Yn ddewr iawn mae’r teulu yn gwr…thod gwneud am eu bod wedi ffermio’r tir ers cenedlaethau ac maen nhw yn erbyn yr effaith byddai Wylfa yn ei gael ar yr iaith Gymraeg ar yr Ynys.

Mae’n amser i bawb ddeffro a gweld mor erchyll fydd Wylfa B i’r iaith Gymraeg ar Ynys Môn a Gwynedd. Bydd tri chwarter o’r swyddi i bobl o’r tu allan i Ogledd Cymru. Bydd datblygiadau tai wrth y miloedd yn dilyn. Pam derbyn yn slafaidd gynlluniau San Steffan am orsaf niwclear pan fedrwn ni gael egni gwyrdd a allai wneud yr Ynys yn gyfoethog?

gwybodaeth – gogledd@cymdeithas.org 01286 662908


Posted in Blog | Rhagfyr 13, 2011 | No Comments »

Er Côf Am Gary Speed.

Oes unhrywun yn cofio digwyddiad mor anisgwyl? Mae o fel petae’r Pâb wedi lladd ei hun neu rywbeth cyffelyb. Dyw’r peth ddim yn gwneud unhryw synnwyr, rhywsut.

Roeddwn i wedi cynhyrfu’n lân ers rhai misoedd am gryfder newydd ein tîm peldroed. Roedd hyn hyd yn oed wedi gwella fy safon byw.

Be dw i’n ceisio esbonio ydy ‘mod i wedi bod yn cymryd mwy o sylw o Gary Speed, ers ei benodiad llynedd yn reolwr Cymru, nag erioed o’r blaen.

Roedd wedi dod ag ysbryd sionc, pell-gyrhaeddol i’r garfan ac wedi hyrwyddo technegau arbrofol a chyfoes – yn rhanol drwy benodi aelodau i’w staff oedd yn flaenllaw yn y byd peldroed ar lefel rhyngwladol. Pobl fel yr Iseldirwr, Raymond Verheijen. Roedd newyddion calonogol yr wythnos yma o’i obaith i ddyfalbarhau gyda carfan Cymru.

Ond i ‘nghenhedlaeth i, roedd Speed wastad wedi bod yno ( dw’i flwyddyn yn iau ).
Dw i’n cofio pan oedd o’n chwarae i Leeds efo’i wallt yn edrych fel petae o ar ei ffordd i rave. Rhywsut, roedd o’n cynrychioli ysbryd ieuenctid a’r holl hunan-hyder sy’n rhan o hynny.

Bu bron iddo fynd i Gwpan Y Byd yn ’94 – yn nhîm Terry Yorath. Roedd yn gapten ar dîm trydanol Mark Hughes a gurodd yr Eidal yn 2002.

Mae’r dirgelwch ynghylch ei farwolaeth yn boenus. Fel pawb, dw’i prin wedi meddwl am ddim arall. Gyda phob math o gynllwynion yn chwyrlio o gwmpas fy ‘mennydd. Pam Speed? Pam Cymru?

Os nad oedd Speed yn arbennig o isel ei ysbryd, pa fath o drybini oedd yn pwyso cyn-drymed ar ei feddwl, druan?

Am ryw reswm mae’n f’atgoffa o farwolaeth Carwyn James yn ’83 – efallai am fod y ddau yn rheolwyr blaenllaw, yn Gymry, ac yn bobl nad oeddem yn barod i ffarwelio â nhw eto.

Ta waeth, y gronyn bach sy’n galonogol am y sefyllfa druenus hon ydy’r ysbrydoliaeth y gallwn dynnu arno i’n tywys allan o’r pydew yma o dristwch.
Roedd Speed yn hollol ddi-ffuant ei grêd y gallwn, fel cenedl, gyflawni unhrywbeth y dymunwn – neu o leia roi cynnig gô dda arni.
Yn fwy na hynny, credai y gallwn wireddu hynny mewn modd urddasol a gogoneddus.

Drwy geisio ymddwyn yn ddiymhongar, blaenllaw a hyderus yn ein maesydd, efallai y medrwn oll ddathlu ei gyfraniad i’n diwylliant.


Posted in Blog | Rhagfyr 7, 2011 | No Comments »

Newyddion


YN FYW


ARCHIF


CYDWEITHIO


Links

@ gruff rhys 2010 | Cysylltwch a ni